Chwiwell
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Chwiwell | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Anas penelope Linnaeus, 1758 |
Mae'r Chwiwell, Anas penelope, yn un o'r hwyaid mwyaf cyffredin trwy rannau helaeth o'r byd, yn nythu yng ngogledd Ewrop ac Asia.
Mae'n hwyaden weddol fawr, 42-50 cm o hyd a 71-80 cm ar draws yr adenydd, ac yn aderyn mudol, sy'n symud tua'r de a thua'r gorllewin i aeafu. Yn y gaeaf maent yn hel at ei gilydd yn heidiau mawr, ambell dro ceir haid yn cynnwys miloedd o adar.
Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd, gyda chefn ac ochrau llwyd a du o gwmpas y gynffon. Mae'r fron yn binc, y bol yn wyn a'r pen yn frowngoch gyda llinell felyn ar draws y corun. Wrth hedfan mae'n dangos darn gwyn mawr ar yr adain sy'n nodweddiadol. Gall fod yn anoddach adnabod yr iâr, sy'n frown golau o ran lliw ac yn weddol debyg i ieir rhai o'r hwyaid eraill, ond mae'r siâp yn wahanol.
Mewn corsydd neu o gwmpas llynnoedd mae'r Chwiwell yn bwydo. Mae'n hwy parod i fwydo ar y lan na'r rhan fwyaf o'r hwyaid eraill, a gellir eu gwels yn pori'r glaswellt yn osystal a chwilio am blanhigion y dŵr. Daw'r enw "Chwiwell" o alwad y ceiliog, sy'n chwiban glir, nodweddiadol o'r rhywogaeth.
Anaml y mae'r Chwiwell yn nythu yng Nghymru ond mae niferoedd mawr yn dod i dreulio'r gaeaf yma.