Crucywel
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Crucywel Powys |
|
Mae Crucywel yn dref yn ne-ddwyrain Powys ar Afon Wysg.
Tardda'r enw o Gaer Crug Hywel gerllaw. Mae’r dref yn sefyll ar Afon Wysg ar ochr ddeuheuol y Mynyddoedd Du yn rhan ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae poblogaeth o ryw 2,000 yn y dref.
Mae adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig yn y dref yn cynnwys eglwys blwyfol St Edmund, sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, gweddillion castell Crucywel ar y “twmp” a’r bont o’r ail ganrif ar bymtheg. Mae gan y bont ddeuddeg bwa ar un ochr a thri bwa ar ddeg ar yr ochr arall.
[golygu] Gefeilldref
|
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Trefi a phentrefi Powys |
Aberhonddu | Crucywel | Y Drenewydd | Y Gelli Gandryll | Llanandras | Llandrindod | Llanfair-ym-Muallt | Llanfyllin | Llanidloes | Llanwrtyd | Machynlleth | Rhaeadr Gwy | Talgarth | Y Trallwng | Trefaldwyn | Trefyclawdd | Ystradgynlais |