Culhwch ac Olwen
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Chwedl Gymraeg Canol sy'n adrodd hynt a helynt yr arwr Culhwch yn ei ymgais i ennill llaw y forwyn Olwen yw Culhwch ac Olwen. Dyma'r chwedl Gymraeg gynharaf am lys y brenin Arthur sydd ar glawr heddiw. Mae'n chwedl drwyadl Gymreig a Cheltaidd heb arlliw o'r Arthur diweddarach a gafodd ei ramanteiddio a'i droi'n ffigwr Cristnogol sifalriaidd yn nwylo'r Ffrancod a'r Saeson.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Llawysgrifau
Ceir yr unig destun cyfan o'r chwedl yn Llyfr Coch Hergest (tua diwedd y 14eg ganrif. Ceir copi anghyflawn yn Llyfr Gwyn Rhydderch (tua chanol y 14eg ganrif) hefyd. Mae peth amrywiaeth rhwng y ddau destun sy'n brawf o fodolaeth fersiwn neu fersiynau cynharach.
[golygu] Dyddiad
Mae nodweddion ieithyddol y chwedl yn gosod ei chyfansoddi yng nghyfnod Canu'r Bwlch neu'r Gogynfeirdd cynnar. Mae 'na gryn fwlch felly rhwng Culhwch ac Olwen a gweddill y chwedlau Cymraeg Canol. Ceir nifer o gyfatebiaethau rhwng iaith y chwedl ac iaith cerddi Llywarch Hen a rhai o destunau Llyfr Du Caerfyrddin. Awgryma'r dystiolaeth iddi gael ei chyfansoddi dim hwyrach na tua 1100, felly (amcangyfrif ceidwadol). Mae ei deunydd yn hŷn o lawer.
[golygu] Crynodeb o'r chwedl
Yn y chwedl mae Culhwch yn ceisio ennill llaw Olwen ferch y cawr Ysbaddaden Bencawr. Am fod ei lysfam wedi tynghedu na cheiff briodi neb ond Olwen - y forwyn decaf erioed - mae Culhwch yn teithio i lys ei gefnder Arthur i gael ei gymorth a'i gynghor. Mae Arthur a'i wŷr, gan gynnwys Cai a Bedwyr, yn penderfynu mynd gyda Chulhwch i lys Ysbaddaden i'w gynorthwyo. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgiau (anoethau) anodd os nad amhosibl. Ni ddisgrifir pob un o'r ddeugain antur yn y ffurf ar y chwedl sydd gennym ni heddiw, ond o blith y rhai a ddisgrifir mae ceisio Fabon fab Modron a hela'r Twrch Trwyth yn haeddianol enwog. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth Ysbaddaden a phriodas Culhwch ac Olwen.
Ceir nifer fawr iawn o gymeriadau yn y chwedl. Cymeriadau bwrlesg sy'n cael eu rhestru yn unig yw llawer ohonyn nhw. Ymhlith y cymeriadau pwysicaf y mae Glewlwyd Gafaelfawr (porthor llys Arthur), Custennin Heusor, Gwalchmai, Menw fab Teirgwaedd, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd, Y Widdon Orddu, Gwyn ap Nudd, Gwrnach Gawr a'r Anifeiliaid Hynaf.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Y testun
- Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1988)
Ceir testun diplomatig yn yr orgraff wreiddiol yn nwy gyfrol J. Gwenogvryn Evans,
- The Text of the Mabinogion... from the Red Book of Hergest (Rhydychen, 1887)
- The White Book Mabinogion (Pwllheli, 1907; argraffiad newydd gol. gan R.M. Jones, Llyfr Gwyn Rhydderch, Gwasg Prifysgol Cymru, 1973)
[golygu] Astudiaethau
- Idris Foster, 'Culhwch ac Olwen' yn, Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Caerdydd, 1974)