Cwpan Eingl-Gymreig
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Y Gwpan Eingl-Gymreig | |
---|---|
![]() |
|
Chwaraeon | Rygbi'r undeb |
Sefydlwyd | 2005 |
Gwledydd | ![]() ![]() |
Pencampwyr presennol | Picwns Llundain |
Gwefan Swyddogol | http://www.edfenergycup.com/ |
Cystadleuaeth rygbi'r undeb rhwng clybiau Saesneg a rhanbarthau Cymreig yw'r Cwpan Eingl-Gymreig. Mae'r gwpan wedi ei ffurfio o'r 4 rhanbarth o Gymru a 12 clwb o Loegr.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Ffurfiwyd y gystadleuaeth yn nhymor 2005-2006 â'r bwriad o adfer yr ymryson rhwng y clybiau Saesneg a'r rhanbarthau Cymreig. Mae'r cwpan wedi ei strwythuro i mewn i rownd grŵp (lle mae'r grwpiau wedi eu trefnu i finimeiddio'r pellter teithio rhwng y tîmau, ac i gadw'r timau Cymraeg ar wahân) ac yna dau rownd knock-out i benderfynu'r ennillydd. Bydd y tîmau o fewn pob grŵp yn chwarae eu gilydd dim ond unwaith i leihau'r effaith ar amserlenni'r Guinness Premiership a'r Cynghrair Celtaidd.
Bu tipyn o ymryson ynglŷn a effaith y gystadleuaeth ar gystadleuthau eraill y tîmau Cymraeg a Saesneg. Ar ôl i Undeb Rygbi Cymru gyrraedd cytundeb â Undeb Rygbi Lloegr ynglŷn â'r gystadleuaeth, diarddelwyd rhanbarthau Cymru dros dro o'r gynghrair Celtaidd oherwydd y grêd y byddai ymglymiad rhanbarthau Cymru i'r Cwpan Eingl-Gymreig yn datbrisio'r gynghrair. Er hynny, dychwelodd y rhanbarthau Cymraeg yn ôl i'r gynghrair wedi cytundeb a fyddai'n osgoi chwarae gemau Eingl-Gymreig ar benwythnosau a dyrranwyd yn wreiddiol i'r gynghrair Celtaidd.
Yn ogystal i'r ymryson hwn, bu tipyn o wrthwynebiad o'r clybiau o adrannau îs rygbi Lloegr. Byddai'r Cwpan Eingl-Gymreig yn disodli Cwpan Lloegr a oedd ar agor i'r holl glybiau Saesneg. Roeddent yn hawlio fod cau'r gystadleuaeth i glybiau o safon îs yn cymryd arian i ffwrdd o îsadrannau'r Guinness Premiership i ddiogelu hierarchaeth rygbi Lloegr.
Ynghylch bwriad y clybiau Ffrengig i foicotio Cwpan Heineken 2007-2008, daeth rhaglenni tymhorol rygbi yn bwnc trafod unwaith eto yn Ewrop. Bu dadlau ynglŷn a'r faint o gemau y dylid chwarae mewn tymor, a'r grêd fod yr amserlen presennol yn orlawn. Ynghylch y dadlau yma, mae'n debygol ni fydd y Cwpan Eingl-Gymreig yn parhau i gael ei chwarae yn yr hîr dymor.
[golygu] Noddwyr
2005-2006 - Cwpan Powergen
2006-2007 - Cwpan Egni EDF
2007-2008 - ???
[golygu] Canlyniadau
[golygu] Y rownd gynderfynol 2006
4ydd o Fawrth 2006 - Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd
Teigrod Caerlyr 17 - 22 Picwns Llundain
Scarlets Llanelli 27 - 26 Caerfaddon
[golygu] Y rownd derfynol 2006
9fed o Ebrill 2006 - Twickenham, Llundain
Picwns Llundain 26 - 10 Scarlets Llanelli