Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru yn cynrychioli Cymru mewn gemau rhyngwladol. Dyma'r tîm sy'n cynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad ac hefyd yng Ngwpan y Byd a gynhelir bob pedair blynedd. Dewisir aelodau o'r tîm hefyd i chwarae gyda'r Llewod.
Yn hanesyddol cydnabyddir Cymru fel un o'r timau gorau gyda nifer o chwaraewyr y 1970au ymhlith goreuon y byd. Ond yn yr 1980au a'r 1990au cafwyd canlyniadau gwael, ond erbyn dechrau'r ganrif newydd roeddent yn gallu cystadlu gyda goreuon y byd eto.
Yng Ngwpan y Byd yn 2003 bu y gemau rhwng Cymru â Seland Newydd a Lloegr yn gemau gorau y gystadleuaeth.
Agorwyd tymor 2005 trwy ennill gêm agos rhyngddynt a Lloegr gyda sgor o 11 - 9. Cafwyd gêm gyffyrddus yn erbyn yr Eidal. Roedd y drydedd gêm yn erbyn Ffrainc yn agos 24- 18. Dangosodd y chwaraewyr eu cymeriad yn y gêm hon drwy ddod yn ôl yn yr ail hanner ac ennill o fod ar ei hêl hi ar hanner amser o 15-6. Cafwyd gêm hawdd yn erbyn yr Alban 46 - 22. Roedd y gêm olaf yn erbyn Iwerddon yn un galed ond enilodd Cymru o 32 i 20 yn Stadiwm y Mileniwm gan ennill ei cystadleuaeth gyntaf ers 1994 a'r Gamp Lawn gyntaf ers 1978.
Yn ystod y tymor hwn roedd Cymru'n chwarae rygbi adloniadol drwy chwarae gêm agored wrth chwarae'r bêl yn gelfydd, sef y ffordd draddodiadol o chwarae i Gymru yn hytrach na dibynnu ar bwysau a bôn braich.