Cyfathrach rywiol
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Math o ymddygiad rhywiol rhwng pobl yw cyfathrach rywiol neu ymrain. Y modd mwyaf cyffredin o gael rhyw yw i ddyn osod ei bidyn mewn fagina dynes. Esblygodd cyfathrach rywiol fel rhan o'r broses atgenhedlu, ond mae agweddau emosiynol a chymdeithasol i gyfathrach rhywiol yn ogystal â rhai biolegol. Yn wir, yn aml mae pobl yn cael rhyw fel rhan o berthynas, neu er mwyn y cyffro a'r pleser corfforol yn unig, heb gael plant.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y broses
Yn aml, mae gweithredoedd megis fflyrtian, cusanu, cyffwrdd, mwytho, a dadwisgo yn rhagarweiniad i gyfathrach rhywiol. Wrth i hyn ddigwydd, mae pidyn y dyn yn ehangu a'n caledu (codiad), ac mae organau cenhedlu'r ddynes yn cynhyrchu hylifau llithrigol.
Pan osodir y pidyn o fewn y fagina, mae'r dyn neu'r merch neu'r ddau yn symud eu morddwydydd, fel fod y pidyn yn symyd nol y mlaen tu fewn i'r fagina, sy'n greu ffrithiant. Mae hyn yn ymgyffroi'r ddau, gan arwain at orgasm ac alldafliad fel arfer.
[golygu] Atgenhedlu rhywiol
Cyfathrach rywiol faginaidd yw'r modd sylfaenol o atgenhedlu ymysg bodau dynol. Mae'n arwain at alldafliad, lle mae cyfangiad nifer o gyhyrau cludo semen o'r pidyn i gromgell y fagina (fel arfer, mae'r dyn yn cael orgasm wrth i hyn ddigwydd). Mae'r semen yn cynnwys miliynau o gelloedd sberm, y gametau gwrywaidd. Gall sberm nofio wefyn trwy ceg y groth i'r groth, ac o'r groth i'r tiwbiau ffalopaidd. Os mae'r ddynes yn cael orgasm wrth i'r dyn alldaflu, neu'n fuan wedyn, fe all y lleihád dros dro yn maint y fagina, a chyfyngiadau cyhyrol yn y groth, yn cynorthwyo i'r sberm cyrhaedd y tiwbiau ffalopaidd (er hynny, mae'n bosib i ddynes mynd yn feichiog heb iddi gael orgasm). Os mae ŵygell ffrwythlon (gamet benywaidd) yn bresennol yn y tiwbiau ffalopaidd, mae'r sberm yn uno â hi, proses o'r enw ffrwythloniad sy'n creu embryo newydd. Pan mae embryo o'r fath yn mewnblannu ar mur y groth, mae'r ddynes yn feichiog. Mae beichiogrwydd yn parhau am dua naw mis, ac yna mae plentyn yn cael ei eni.
Os mae'r dyn a'r dynes yn ffrwythlon, mae beichiogrwydd pob tro yn ganlyniad posib i gyfathrach rhywiol. Gellir defnyddio dulliau effeithlon o atal-cenhedlu i osgoi hyn.
[golygu] Mathau arall o gyfathrach rhywiol
Yn ogystal â chyfrach rhywiol faginaidd, ceir sawl fath arall. Mewn cyfathrach rywiol eneuol, defnyddir y ceg a'r tafod i gyffroi'r organau cenhedlu. Mewn cyfathrach rywiol refrol, fel arfer, mae dyn yn gosod ei bidyn yn anws ei gymar. Hunan-leddfu ar y cyd yw'r ffurf mwyaf diogel o gael rhyw mae'n debyg.
[golygu] Dolenni allannol
- Canllaw i bobl ifanc
- Canllaw i bobl ifanc
- Canllaw yn canolbwyntio ar gyfathrach cyfunrhyw
- Geirfa anffurfiol
[golygu] Gweler hefyd
- Rhyw diogel
- Orgasm
- Atgenhedlu
- Tuedd rhywiol
- Hunaniaeth rhywiol
- Rhestr o gyfuniadau rhywiol
- Hunan-leddfu
- Chwantau anniferol
- Trais rhywiol
- Organau cenhedlu