Leonardo da Vinci
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Leonardo da Vinci Arlunydd a dyfeisiwr ![]() |
|
Genedigaeth: |
15 Ebrill 1452 Vinci, Yr Eidal |
Marwolaeth: |
21 Mehefin 1519 Amboise, Ffrainc |
Arlunydd, dyfeisiwr, cerddor ac athrylith cyffredinol oedd Leonardo da Vinci (15 Ebrill, 1452 - 2 Mai, 1519). Mae Leonardo yn enwocaf am beintiadau maestrolgar megis Mona Lisa a'r Swper Olaf ac am ei ddyfeisiadau sydd yn rhagflaenwyr ar gyfer technoleg modern.
[golygu] Bywyd a gyrfa cynnar
Cafodd Leonardo ei eni yn Anchiano, ger Vinci yn yr Eidal. Roedd yn blentyn anghyfreithlon i gyfreithiwr ifanc o'r enw Ser Piero da Vinci a, mae'n debyg, merch gwerin o'r enw Caterina. Tyfodd Leonardo i fyny gyda'i dad yn Fflorens lle dechreuodd dynnu lluniau a peintio, wedi'i ysbrydoli gan natur a thirwedd ardal Toscana. Roedd ei luniau cynnar o ansawdd mor uchel dechreuodd ei aprentisiaeth gyda'r peintiwr a cherfluniwr Andrea del Verrocchio yn 14 mlwydd oed.
Y peintiad cyntaf y gallwn fod yn sicr bod Leonardo wedi cyfrannu ato yng ngweithdy Verrocchio oedd Bedydd Crist [1]. Cyfraniad Leonardo oedd yr angel ar y chwith, sydd yn fwy real na phrif gymeriadau'r llun, sef Iesu Grist a Ioan Fedyddiwr, a'u peintiwyd gan ei athro. Yn ôl y chwedl, ni fentrodd Verrocchio beintio byth eto ar ôl i dalent ei ddisgybl ragori ar ei allu ei hunan.
[golygu] Weblinks
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.