Cyflafan Columbine
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Digwyddodd Cyflafan Columbine ar 20 Ebrill, 1999 yn Ysgol Uwchradd Columbine yn Sir Jefferson ger Littleton yng Ngholorado, Unol Daleithiau America. Dau fyfyriwr, Eric Harris a Dylan Klebold oedd yn gyfrifol am osod bomiau a drylliau yn yr ysgol. Lladdwyd 12 myfyriwr ac athro cyn hunanladd eu hunain. Dyna'r llofruddiaethau gwaethaf mewn ysgol yn hanes America.
Mae'r ffilm ddogfen Bowling for Columbine gan Michael Moore yn adrodd hanes y digwyddiad.