Y Bala
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Y Bala Gwynedd |
|
Mae'r Bala yn dref fach yng Ngwynedd (yn draddodiadol yn Sir Feirionydd). Does dim ond un stryd fawr yn y dref. Mae Llyn Tegid gerllaw. Mae'r dref ar yr A494, rhwng Dolgellau (18 milltir i'r de-orllewin) a Llangollen (22 milltir i'r dwyrain).
Mae Afon Tryweryn yn llifo heibio i'r dref i'r dwyrain ac yn ymuno ag Afon Dyfrdwy sy'n rhedeg trwy Lyn Tegid i ddod allan ar ochr ddeheuol y Bala.
Rhoddir yr enw bala ar lefydd sy'n agos i afon yn llifo o lyn.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Ar un adeg roedd y Bala yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân ond dirwynodd i ben yn y 19eg ganrif. Yn y sgwâr yng nghanol y dref saif cerflun er cof am Tom Ellis (1859-1899), AS Meirionnydd ar ddiwedd y 19eg ganrif, a aned yng Nghefnddwysarn nepell o'r Bala. Yno hefyd mae plac yn coffhau y Parch. Thomas Charles o'r Bala, Methodist blaenllaw ac un o selogion y Gymdeithas Feiblau a symbylwyd gan daith Mary Jones yn droednoeth i'r Bala yr holl ffordd o Llanfihangel-y-Pennant yn 1800. Ym mhen gogleddol y dref gwelir y Green gyda cherrig yr Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1967. Ger llaw y mae Tomen y Bala, sy'n motte castell Normanaidd efallai. O'r Bala daeth nifer o'r ymfudwyr a aethant i'r Wladfa ym Mhatagonia yn 1865.
[golygu] Enwogion
- Thomas Charles
- Owain Meirion (1803 - 1868), baledwr
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ym 1967 a 1997. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Bala 1967
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997
[golygu] Gefeilldref
Mae pentref Bala yn nhalaith Ontario, Canada, yn efeilldref swyddogol i'r Bala.