Delme Thomas
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae William Delme Thomas (ganed 1942 ym Mancyfelin, Sir Gaerfyrddin) yn gyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb, a enillodd 25 o gapiau dros Gymru fel clo.
Ymunodd Delme Thomas a chlwb Llanelli yn 1961. Ef oedd capten Llanelli yn ystod eu tymor canmlwyddiant yn 1972-73, ac ef hefyd oedd capten Llanelli pan enillwyd y fuddugoliaeth enwog dros y Crysau Duon yn 1972. Cofir o hyd am ei araith emosiynol i'w gyd=chwaraewyr cyn y gêm yma.
Chwaraeodd i dim Ieuenctid Cymru yn ddeunaw oed, ac enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Awstralia yn 1967, a bu'n ddewis cyntaf fel clo hyd nes iddo ymddeol yn 1973. Chwaraeodd ran bwysig yn y tim a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 1971. Yn ei dymor olaf, ef oedd capten Cymru yn y gêm yn erbyn y Crysau Duon yng Nghaerdydd.
Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig dair gwaith, y tro cyntaf i Awstralia a Seland Newydd yn 1966, cyn iddo chwarae i Gymru. Chwaraeodd mewn dwy gêm brawf ar y daith yma, mewn dwy gêm brawwf ar y daith i Dde Affrica yn 1968 a dwy arall ar y daith i Seland Newydd yn 1971.
[golygu] Ffynonellau
Gareth Hughes (1983) One hundred years of scarlet (Clwn Rygbi LLanelli) ISBN: 0 9509159 0 4