Dewiniaeth Caos
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Mae Dewiniaeth Caos (Chaos Magic yn Saesneg) yn ddull o ddewiniaeth a gafodd ei greu yn Ngorllewin Swydd Efrog, Lloegr, yn y 1970au. Trwy dechnegau amrywiol sydd yn aml yn debyg i ddewiniaeth ddefodol neu Siamaniaeth, mae llawer o ymarferwyr yn credu y gallant newid eu profiadau goddrychol a realiti gwrthrychol ill dau, er bod yna rai ddewiniaid Caos sydd ddim yn credu bod dewiniaeth yn digwydd trwy foddion goruwchnaturiol.
Er bod yna rai dechnegau sydd yn unigryw i Ddewiniaeth Caos (fel rhai ddulliau o Ddewiniaeth y Sêl),mae Dewiniaeth Caos yn aml yn unigolynnol iawn ac yn benthyg yn hael o gyfundrefnau cred eraill. Am hynny mae rhai ddewiniaid Caos yn ystyried eu hymarfer i fod yn uchgred. Mae ffynonellau cyffredin ei hysbrydoliaeth yn cynnwys ffuglen wyddonol, damcaniaethau gwyddonol, dewiniaeth ddefodol, siamaniaeth, athroniaeth y Dwyrain, crefydd, ac arbrofi'r unigolyn.
Mae dewiniaid Caos yn credu bod cymhwysedd yn bwysicach na chyfundrefnau cred: disgrifir Dewiniaeth Caos weithiau fel "Dewiniaeth Canlyniadau".
Taflen Cynnwys |
[golygu] Cynhanes
Am gyfnod byr yr oedd Austin Osman Spare yn aelod o Argenteum Astrum Aleister Crowley ond ymadawodd â nhw i weithio'n annibynnol. Datblygodd ddamcaniaeth ac ymarfer a fyddai, ar ôl ei farwolaeth, yn eithriadol o ddylanwadol ar yr Illuminates of Thanateros. Yn benodol, datblygodd Spare y defnydd o seliau, a thechnegau sy'n ymwneud ag ansoddau o berlewyg (gnosis) i alluogi'r rhain. Roedd Spare hefyd yn arloeswr ym maes datblygu gwyddor gysegredig bersonol, ac yn arlunydd dawnus a ddefnyddiai delweddau fel rhan o'i dechneg ddewinol. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith diweddar ar seliau yn ailadrodd gwaith Spare; adeiladaeth ymadrodd sy'n mynegi bwriad dewinol, deoliad llythrennau dyblyg, ac ailgyfuniad artistig gweddill y llythrennau i ffurfio'r seliau. Er na wnaeth ef ddechrau'r term, mae rhai yn ystyried Spare i fod y dewin Caos gwreiddiol, oherwydd ei wrthodiad o gyfundrefnau dewinol sefydlog er mwyn creu ei ddulliau ei hun.
Ar ôl marwolaeth Aleister Crowley a Spare, roedd dewiniaeth fel yr oedd hi'n cael ei hymarfer gan yr isddiwylliant ocwlt pitw ym Mhrydain yn tueddu i fod yn fwy arbrofol, personol a llai clymedig i draddodiadau dewinol yr urddau dewinol sefydlog. Ymhlith y rhesymau am hynny oedd argaeledd cyhoeddus gwybodaeth ar ddewiniaeth oedd wedi bod yn esoterig gynt (yn enwedig yng ngwaith cyhoeddedig Crowley ac Israeli Regardie), dewiniaeth anuniongred radicalaidd Zos Kia Cultus Austin Osman Spare, dylanwad Discordianaeth a'i boblogeiddiwr Robert Anton Wilson, a phoblogrwydd cynyddol dewiniaeth yn sgil llwyddiant y ffydd Wicca a'r defnydd o gyffuriau seicodelig.
[golygu] Hanes
Ym 1978, cyhoeddodd Peter James Carroll Liber Null, a esboniodd berspectif newydd o ddewiniaeth, a elwir bellach Dewiniaeth Caos. Mae Liber Null ynghyd â Psychonaut (1981) gan yr un awdur, yn dal yn ffynonellau pwysig. Mae dewiniaid sy'n alinio eu hunain i'r syniadau hyn yn aml yn galw eu hunain yn Chaotes yn Saesneg, ond mae'r termau Chaoite, Chaoist a Chaosite hefyd yn cael eu defnyddio.
Mae cyfarfod rhwng Peter J Carroll a Ray Sherwin yn y Sorcerer's Apprentice ym 1976 wedi cael ei ddisgrifio fel man geni Dewiniaeth Caos. Hefyd, ym 1978, sefydlodd Carroll a Sherwin yr Illuminates of Thanateros (IOT), sefydliad sy'n parhau i ymchwilio a datblygu Dewiniaeth Caos hyd heddiw. Mae llawer o awduron ac ymarferwyr enwog Dewiniaeth Caos yn crybwyll cysylltiad ag ef. Serch hynny, mae Dewiniaeth Caos yn gyffredin yn un o ganghennau lleiaf cyfundrefnol dewiniaeth.
[golygu] Symudiad paradeim dewinol
Un o nodweddau mwyaf trawiadol dewiniaeth Caos yw'r cysyniad o'r symudiad paradeim dewinol. Gan ddefnyddio term o'r athronydd Thomas Kuhn, dechreuodd Carroll y dechneg o newid byd-olwg (neu baradeim) rhywun ar ddewiniaeth yn fympwyol yn gysyniad sylweddol Dewiniaeth Caos. Enghraifft o symudiad paradeim dewinol yw gwneud defod Lovecraftaidd, wedi ei dilyn gan dechneg o lyfr Edred Thorsson yn y ddefod ganlynol. Mae'r ddau baradeim dewinol yn wahanol iawn, ond wrth i'r unigolyn ddefnyddio un, mae'n credu ynddo'n gyfan gwbl gan anwybyddu pob un arall. Erbyn hyn, mae symudiad paradeim dewinol wedi dod yn rhan o waith ymarferwyr traddodiadau dewinol eraill, ond Dewiniaeth Caos yw maes datblygu mwyaf y cysyniad.
[golygu] Gnosis
Cysyniad a gafodd ei gyflwyno gan Carroll yw gnosis. Mae hyn yn cael ei ddiffinio fel cyflwr arbennig o ymwybyddiaeth sydd yn ei ddamcaniaeth ef o ddewiniaeth yn rheidiol i weithio'r rhan fwyaf o ffurfiau o ddewiniaeth. Mae hynny'n ymadawiad â chysyniadau hŷn oedd yn disgrifio egnion, ysbrydion neu weithredoedd arwyddluniol fel tarddiad pwerau dewinol. Mae'r cysyniad yn tarddu o'r cysyniad Bwdhaidd o Samadhi, a ddaeth yn boblogaidd yn ocwltiaeth y Gorllewin trwy waith Aleister Crowley a fforio pellach Austin Osman Spare. Mae gnosis yn cael ei sylweddoli pan fo'r meddwl yn cael ei ganolbwyntio ar un pwynt, meddwl, neu gyrchnod yn unig a dim byd arall. Mae pob ymarferwr Dewiniaeth Caos yn datbblygu ei ffordd ei hun i gyrraedd y cyflwr yma. Mae pob dull yn seiliedig ar y gred bod meddwl syml neu gyfeiriad a brofir yn ystod gnosis ac sydd yn cael ei anghofio'n fuan wedyn yn cael ei anfon i'r isymwybod, yn hytrach na'r meddwl ymwybodol, lle gall gael ei ddeddfu trwy foddion sydd yn anhysbys i'r meddwl ymwybodol.
[golygu] Symbylau a Duwiau
Mae Dewiniaeth Caos yn unigryw o blith traddodiadau dewinol am nad yw'n rhoi arwyddocâd i unrhyw symbol neu dduw yn arbennig. Ni allai Wicca neu Thelema, er enghraifft, bod fel y maent heb y Fam Dduwies (Wicca) a Horws (Thelema). Gallai dewin Caos ddefnyddio (neu beidio defnyddio) unrhyw gysyniad neu grwp o gysyniadau i addoli, galw neu gonsurio unrhyw dduw neu dduwies. Mae duwiau traddodiadol Caos fel Tiamat, Eris, Loki a Hun Tun yn boblogaidd, a phoblogaidd hefyd yw'r endidau a ddisgrifir yn y Necronomicon yn ffuglen H P Lovecraft. Yn dilyn y daliad y gall unrhywbeth fod yn arwyddocaol a dal pwêr hudol, mae defodau Dewiniaeth Caos wedi canoli o gwmpas symbylau mor wahanol â'r lliw Octarin, ffuglen H P Lovecraft, hen hosan, sbwriel wedi ei gael ar hap, neu Harpo Marx. Mae'r Seren Caos (a elwir y caosffer neu rawd Caos), wedi ei chymryd oddi wrth nofelau ffantasi Michael Moorcock, yn cael ei defnyddio'n aml gan ddewiniaid Caos ac fe'i gwelir heddiw fel symbol o "bosibiliadau annherfynol" Dewiniaeth Caos.
[golygu] Mewn diwylliant poblogaidd
Mae Dewiniaeth Caos wedi cael ei grybwyll yn lleoedd fel DC Comics, Marvel Comics, Buffy the Vampire Slayer, Undine, a Breathe (olynydd i Undine). Mae'r dewin Caos Grant Morrison wedi cynnwys portread dramatig o ddamcaniaethau Dewiniaeth Caos a dewiniaid Caos a'u hymarferion yn ei nofel graffig The Invisibles
[golygu] Dewiniaid Caos enwog
- Peter James Carroll
- Phil Hine
- Ray Sherwin
- William S. Burroughs
- Ian Read (cerddorwr)
- Grant Morrison
- Joel Biroco