Sgwrs:Dewiniaeth Caos
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Pam defnyddio'r gair benthyg Caos, gan fod y geiriau Cymraeg "anrhefn" a "tryblith" yn bodoli? Symud i Hud Anhrefn? Yn bersonol, mae'n well gen i ddefnyddio'r gair "Caos" am ystyr gwreiddiol y gair Groegaidd Chaos, sy'n debycach i wacter nag anrhefn --Llygad Ebrill 14:47, 5 Chwefror 2007 (UTC)
Yn union. Mae "Caos" fan hyn yn cyfeirio at gysyniad clasurol. Yn Geiriadur-yr-Academi cawn "caotig" fel gair, am hynny newidiais o "Chaos" i "Caos". Dwi hefyd rwan wedi cynnwys y term Saesneg gwreiddiol fel esboniad (gweler: Sgwrs Hud y sêl)Sanddef 10:26, 6 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef
- Sori am y sylw di-angen, caos yw'r gair cywir felly. Wedi meddwl, od mai caos yw'r gair safonol, gan fod yr ynganiad Cymraeg o Chaos yn agos iawn i'r Roeg. Ond dyna ni! --Llygad Ebrill 11:29, 6 Chwefror 2007 (UTC)
[golygu] Caos
Dim o gwbl! Dim sylw di-angen oedd o ond cwestiwn digon teg. Wedi'r cwbwl wrth siarad am bethau fel "Chaos Magic" yn Gymraeg mae'n rhaid inni fathu term nad oedd yn bodoli yn y Gymraeg gynt, does dim canllaw ar gyfer y fath bethauSanddef 01:55, 7 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef