Doctor Zhivago
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Nofel gan Boris Pasternak yw Doctor Zhivago ( Rwsieg: Доктор Живаго). Enwir y nofel ar ôl y prif gymeriad, Yuri Zhivago, sy'n feddyg ac yn fardd. Mae'n adrodd hanesion serch a pherthnasau, efo digwyddiadau chwyldro Rwsia yn amlwg iawn yn y cefndir.
[golygu] Y nofel
Er i rannau gael eu hysgrifennu yn y 1910au a'r 1920au, ni chwblhawyd Doctor Zhivago tan 1956. Fe'i cynigwyd i'w gyhoeddi yn y cylchgrawn Novyi mir, ond fe'i gwrthodwyd oherwydd trafferthion Pasternak â llywodraeth yr Undeb Sofietaidd. Yn 1957 fe lwyddodd y cyhoeddwr Giangiacomo Feltrinelli gael y llawysgrif allan o Rwsia, a'i chyhoeddi yn y Rwsieg gwreiddiol ym Milan. Yn 1958, cyhoeddwyd cyfieithiadau i'r Eidaleg a'r Saesneg, ac fe wobrwyd Pasternak â Gwobr Llenyddiaeth Nobel. Cyhoeddwyd y nofel yn Rwsia o'r diwedd yn 1988, ar dudalennau yr union Novyi mir a'i gwrthododd flynyddoedd ynghynt.
Mae'r prif gymeriad, Zhivago, yn sensitif ac yn farddonol iawn. Mae cyferbyniad milain rhwng ei egwyddorion a hunllefau'r Chwyldro. Un o themâu mawr y llyfr yw sut mae erchyllterau rhyfel a chulder gwleidyddol yn dinistrio'r hardd a'r egwyddorol mewn gwlad ac ym mywyd dyn.
Mae tirlin Siberia yn gefndir i lawer o'r nofel, tra bod darnau eraill yn cymryd lle yn ninas Moskva.
Fe grëodd Roger Bolt addasiad ffilm o'r nofel yn 1965. Fe ymddangosodd fersiwn deledu yn 2002, efo Keira Knightley yn chwarae rhan Lara.