Rwsieg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Rwsieg (русский язык russkij jazyk) | |
---|---|
Siaredir yn: | Rwsia a gwledydd eraill y cyn Undeb Sofietaidd |
Parth: | Dwyrain Ewrop a Gogledd Asia |
Siaradwyr iaith gyntaf: | 145 miliwn fel iaith gyntaf 110 miliwn fel ail iaith |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | 8 |
Dosbarthiad genetig: | Indo-Ewropeaidd Balto-Slafeg |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Rwsia, Belarws, Kazakhstan, Kyrgyzstan, Cenhedloedd Unedig |
Rheolir gan: | Academi Gwyddoniaethau Rwsia |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | ru |
ISO 639-2 | ru |
ISO 639-3 | rus |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Iaith Slafeg Ddwyreiniol a siaredir yn Rwsia a nifer o wledydd eraill yw Rwsieg (neu Rwseg). Hi oedd iaith swyddogol yr Undeb Sofietaidd. Fe'i siaredir gan fwyafrif helaeth poblogaeth Rwsia (142.6 miliwn gan gynnwys siaradwyr ail iaith, Cyfrifiad Rwsia 2002), gan leiafrifoedd Rwsiaidd a chyfran fawr y boblogaeth ddi-Rwsiaidd mewn nifer o wledydd eraill y cyn Undeb Sofietiadd (Wcrain, Kazakhstan ac ati). Mae niferoedd sylweddol o allfudwyr Rwsiaidd a'u disgynyddion mewn gwledydd y Gorllewin hefyd yn siarad yr iaith. Fe'i defnyddir fel iaith gyffredin (lingua franca) ymysg siaradwyr gwahanol ieithoedd Rwsia, Asia Ganolog, gwledydd y Cawcasws, Wcráin a Belarws.
[golygu] Geiriau
Helo: здравствуйте /ˈzdrastvujtʲə/
Hwyl fawr: до свидания /də sviˈdanjə/
Os gwelwch yn dda: пожалуйста /paˈʒalustə/
Diolch: спасибо /spaˈsibə/
Rhowch imi | Дайте мне | |
gwrw | пиво | |
os gwelwch yn dda | пожалуйста | |
ac | и | |
yn gyflym! | быстро! |
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.