Edmund Ignatius Rice
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Edmund Ignatius Rice (1762-1844) oedd sylfaenwr Catholig y Brodyr Cristnogol.
[golygu] Bywyd Cynnar
Cafodd Rice ei eni ym 1762, yng Nghallan, Waterford, Iwerddon. Am nad oedd Gwyddelod Catholig yn medru cael addysg Gatholig ar y pryd (oherwydd y "Ddeddf Gosbol" Brydeinig), cafodd Rice ei addysgu gan offeiriaid Catholig yn y cartref teuluol.
Priododd Mary Elliott tua 1786, ond bu farw Mary mewn damwain wrth farchogaeth yn fuan ar ôl eu priodas.
[golygu] Cynulleidfa y Brodyr Cristnogol
Ar ôl marwolaeth Mary, ystyriodd symud i Rufain i ymuno ag Awstiniaid, ond roedd ei gyfeillion wedi ei argyhoeddi i helpu pobl tlawd Iwerddon. Agorodd ei ysgol gyntaf ar gyfer bechgyn yn stabl ceffylau dau lawr, yn New Street, Waterford, ym 1802. Ym 1808, sylfaenwyd urdd "Brodyr y Cyflwyniad" (yn Saesneg, "Presentation Brothers") ganddo i addysgu bechgyn Catholig difreintiedig. Agorodd ei urdd lawer o ysgolion dros Iwerddon, a thros y byd hefyd ar ôl marwolaeth Edmund Rice.
[golygu] Ei farwolaeth a'i gysegru'n sant
Bu farw Rice ar 29 Awst, 1844, ym Mount Sion, Waterford. Yn ystod ei fywyd galwai pobl Waterford Edmund Rice y “Sant sy'n Cerdded”. Ym 1996, datganodd Pab Ioan Pawl II fod Edmund Rice yn Beatus, y cam cyntaf cyn dod yn sant yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.