Edmwnd Prys
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd, dyneiddiwr a chyfieithwr oedd Edmwnd Prys (1544-1623). Roedd yn frodor o Lanrwst ac yn berthynas i Wiliam Salesbury. Ysgrifennai yn Gymraeg a Lladin. Fe'i cofir yn bennaf am ei gyfieithiad mydryddol o'r Salmau a'i ymryson barddol â Wiliam Cynwal ynglŷn â natur a swyddogaeth yr Awen.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Gruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.