Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Enillwyd Coron Eisteddfod Rhydaman ym 1922 gan fardd lleol oedd yn dod o Frynaman, Bryan Martin Davies. Fe enillodd am ei ddilyniant o gerddi ar y testun Darluniau ar Gynfas. Aeth ymalen i gipio'r goron y flwyddyn ganlynol yn Eisteddfod Bangor. Tomi Evans o Sir Benfro enillodd y gadair am ei awdl i'r Twrch Trwyth. Dai Jones y darlledwr enillodd y Rhuban Glas, ac fe enillodd Leah Owen bedair gwobr gyntaf. Fe gynhyrchodd Norah Issac basiant y plant Gwilym a Beni Bach. Dyma'r tro cyntaf erioed i'r Eisteddfod ddarparu maes carafannau swyddogol, a leolwyd ar gaeau chwarae yr hen ysgol eilradd.