Brynaman
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Brynaman Sir Gaerfyrddin |
|
Mae Brynaman yn bentref yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, ger y Mynydd Du a datblygodd oherwydd y diwydiant glo yn y 19fed Ganrif. Rhannir y pentref yn ddau gan Afon Aman - i'r Gogledd mae Brynaman Uchaf yn Sir Gaerfyrddin tra i'r De mae Brynaman Isaf yn Sir Castell-nedd Port Talbot yn yr hen Forgannwg. Cyn adeiladu'r rheilffordd i fynu Dyffryn Aman o dref Rhydaman, enw traddodiadol y pentref oedd Y Gwter Fawr a dyna sut adnabyddwyd Brynaman gan George Borrow yn ei lyfr Wild Wales ym 1855.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Trefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin |
Bancyfelin | Y Betws | Bethlehem | Brynaman | Bynea | Caerfyrddin | Castell Newydd Emlyn | Cydweli | Glanaman | Hendy-gwyn ar Dâf | Llandeilo | Llandybie | Llanelli | Llanfihangel-ar-Arth | Llanfynydd | Llanybydder | Llanymddyfri | Pontyberem | Porth Tywyn | Rhydaman | Rhydcymerau | Sanclêr | Talyllychau Tymbl |