Gardd Eden
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gardd Eden yw lleoliad y Baradwys Ddaearol yn y Beibl a'r Torah. Yn ôl yr ail ddisgrifiad o greu'r byd a geir yn Llyfr Genesis yn yr Hen Destament, planodd Duw ardd yn Eden, oedd rhywle yn y Dwyrain (Gen. 2:8). Yn fersiwn y Septaguint o'r Hen Destament mae'r gair Hebraeg 'gardd' yn cael ei gyfieithu fel 'Paradwys'.
Dywedir fod Gardd Eden yn cynnwys pob coeden ffrwythau da. Yn ei chanol safai Pren y Bywyd (Coeden Gwybodaeth y Da a'r Drwg). Mae'r goeden yn cael ei dyfrhau gan afon sy'n ymrannu'n bedair cangen wrth iddi adael yr ardd, sef Pedair Afon Paradwys a enwir fel Pishon, Gihon, Hidecel ac Ewffrates.
Roedd Dyn a Dynes (Adda ac Efa) yn byw yn ddedwydd yn yr ardd, mewn cyflwr o ddiniweidrwydd naturiol, yn noethlymun ond heb gywilydd o hynny, nes iddynt fwyta'r Ffrwyth Waharddedig mewn canlyniad i ystryw'r Sarff a chael eu Troi allan o Baradwys oherwydd iddynt bechu.