Glofa Gresffordd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Pwll glo ger Wrecsam oedd Glofa Gresffordd, rhan o Faes Glo Gogledd Cymru. Mae'n enwog am y drychineb a ddigwyddodd ar 22 Medi, 1934, pan gafodd 265 o bobl eu lladd trwy ffrwydrad nwy yn y pwll. Mae hi'n un o'r trychinebau pyllau glo mwyaf erchyll yn hanes Prydain.
Digwyddodd y drychineb yn ystod y sifft nos, pan roedd rhyw 500 o lowyr yn gweithio dan ddaear, llawer ohonynt yn gweithio sifftiau dwbl. Hyd heddiw, does neb yn gwybod beth achosodd y ffrwydrad nwy laddodd cymaint ohonynt. Bu'n rhaid cau'r lofa lle digwyddodd y drychineb am gryn amser rhag ofn y digwyddai ffrwydriadau eraill ac o ganlyniad bu raid gadael 254 o gyrff yn y pwll. Ailagorwyd y pwll chwech mis yn ddiweddarach, heblaw am ran "Denis" y pwll lle digwyddodd y damwain.
Gadawai'r glowyr a gollodd eu bywydau weddwon a phlant. Casglwyd dros £566,500 mewn cronfa arbennig a sefydlwyd gan Faer Wrecsam ar eu cyfer.
[golygu] Gweler hefyd
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.