Gruffudd ap Llywelyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Am Gruffudd ap Llywelyn, tad Llywelyn Ein Llyw Olaf, gweler Gruffudd ap Llywelyn Fawr.
Roedd Gruffudd ap Llywelyn (c. 1000 – 5 Awst, 1063) yn frenin ar bron y cyfan o Gymru o 1055 hyd ei farwolaeth.
Yr oedd Gruffudd yn fab i Llywelyn ap Seisyll, oedd wedi teyrnasu ar Wynedd, ac yn ddisgynnydd i Rhodri Mawr, ond nid oedd yn aelod o frenhinllin arferol Gwynedd, disgynyddion Idwal Foel. Pan fu farw Iago ap Idwal ap Meurig yn 1039, gallai Gruffudd gipio Gwynedd. Bu'n ymladd yn llwyddiannus yn erbyn Mercia, yna ymosododd ar Deheubarth. Erbyn 1044 yr oedd wedi concro Deheubarth, ond collodd ei afael ar y deyrnas honno yn 1047. Yr oedd yn awr wedi dod i gytundeb â Mercia, ac enillodd lawer o diriogaeth ar y gororau, gan gipio a llosgi Henffordd yn 1055.
Yn yr un flwyddyn enillodd Ddeheubarth yn ôl, ac erbyn hyn gallai hawlio bod yn frenin ar Gymru gyfan bron. Derbyniwyd ei hawl dros Gymru gan y Saeson, a daeth i gytundeb ag Edward y Cyffeswr. Yn 1063 ymosodwyd arno gan fyddin dan arweiniad Harold Godwinson, ac fe lofruddiwyd Gruffudd gan ei wŷr ei hun, ac anfonwyd ei ben i Harold. Rhannwyd ei deyrnas ymhlith nifer o olynwyr.
O'i flaen: Iago ap Idwal ap Meurig |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd: Bleddyn ap Cynfyn |
O'i flaen: Meurig ap Hywel |
Brenhinoedd Gwent | Olynydd: Cadwgan ap Meurig |
O'i flaen: Gruffudd ap Rhydderch |
Brenhinoedd Glywysing |
|
Brenhinoedd Deheubarth | Olynydd: Maredudd ab Owain ab Edwin |