Gwyddoniaeth
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyfeiria'r enw Gwyddoniaeth at unrhyw system o wybod sy'n defnyddio dulliau a ellir eu gwirio. Yn benodol, mae'n cyfeirio at system o ganfod gwybodaeth sy'n seiliedig ar empeiriaeth, arbrofi, a naturioldeb methodolegol; ac at y cyfanrwydd trefniedig o wybodaeth y mae pobl wedi casglu trwy ymchwil o'r fath.
Myna gwyddonwyr bod yn rhaid i ymchwil gwyddonol ufuddhau i'r dull gwyddonol, gan egluro digwyddiadau yn nhermau achosion naturiol, a gwrthod syniadau goruwchnaturiol.
Dosbarthir meysydd yn ddau prif grŵp: y gwyddoniaethau naturiol, a'r gwyddoniaethau cymdeithasol.
Mae Mathemateg yn arf hanfodol i'r gwyddonydd, ac mae Mathemateg yn debyg i Wyddoniaeth gan ei bod yn astudiaeth trwyadl a rhesymegol o bynciau megis maint, strwythr, gofod, a newid. Fodd bynnag, ni ellir ystyried Mathemateg yn Wyddoniaeth, gan fod y dull mathemategol yn gwbl wahanol i'r dull gwyddonol.
Gwyddoniaeth naturiol |
---|
Bioleg | Cemeg | Ecoleg | Ffiseg | Gwyddorau daear | Seryddiaeth |
Gwyddorau cymdeithas |
---|
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg |
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg |
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.