Harri I, brenin yr Almaen
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Harri I yr Adarwr (Almaeneg: Heinrich der Finkler neu Heinrich der Vogler; Lladin: Henricius Auceps) (876 – 2 Gorffennaf 936) yn Ddug Sacsoni o 912 ac yn frenin yr Almaen o 919 hyd ei farwolaeth. Ef oedd y cyntaf o'r frenhinllin Ottonaidd o frenhinoedd ac ymerodron yr Almaen.
Ystyrir mai ef oedd sefydlydd a brenin cyntaf teyrnas yr Almaen, oedd yn cael ei galw yn Ffrancia Ddwyreinol cyn hynny. Roedd yn heliwr brwd, a chafodd yr enw "yr Adarwr" oherwydd y stori ei fod wrthi'n gosod rhwydi i ddal adar pan gyrhaeddodd negeswyr i'w hysbysu ei fod wedi ei ethol yn frenin.