Hedd Wyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (1887 - 31 Gorffennaf, 1917).
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ei fywyd a'i waith
Roedd Hedd Wyn yn frodor o Drawsfynydd, yn yr hen Sir Feirionydd, lle cafodd ei eni yn 1887, yn fab i Mary ac Evan Evans. Ar ôl cyfnod yn yr ysgol leol gweithiodd gartref yn Yr Ysgwrn, fferm ei dad. Barddonai o'i lencyndod a bu'n cystadlu mewn eisteddfodau hyd ddyddiau cynnar y Rhyfel Byd Cyntaf.
Aeth yn filwr yn 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn 1917; fe'i lladdwyd ym Mrwydr Pilken Ridge (rhan o Frwydr Ypres) ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn.
Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917 am ei awdl "Yr Arwr", er iddo gael ei ladd chwe mis ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddwyd ei fod wedi'i ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair â llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr eisteddfod honno fel Eisteddfod y Gadair Ddu.
[golygu] Ei gofio
Ysgrifennodd y bardd Robert Williams Parry gyfres nodedig o englynion er cof amdano, sy'n dechrau â'r llinell gofiadwy, "Y bardd trwm dan bridd tramor".
Codwyd cofgolofn iddo yng nghanol Trawsfynydd, a ddadorchuddiwyd gan ei fam yn 1923. Ar gerflun pres y gofgolofn mae'r englyn a ysgrifennodd Hedd Wyn am ei gyfaill a laddwyd ar faes y gad.
- Ei aberth ni â heibio - ei wyneb
-
- Annwyl nid â'n ango
- Er i'r Almaen ystaenio
- Ei dwrn dur yn ei waed o.
-
[golygu] Ffilm
Gwnaeth Paul Turner ffilm amdano o'r enw Hedd Wyn, ffilm a enwebwyd am Oscar yn y categori ffilm dramor orau yn 1992.
[golygu] Ei gerddi ar-lein
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Llun o'i garreg fedd, gyda'r arysgrif "Y PRIFARDD HEDD WYN"
[golygu] Llyfryddiaeth
- Cerddi'r Bugail golygydd JJ Williams (1918) - casgliad o gerddi Hedd Wyn
- Hedd Wyn gan William Morris (1969)
- Ysgrifau Beirniadol VI golygydd JE Caerwyn Williams (1971) - ysgrif gan Derwyn Jones