Robert Williams Parry
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Robert Williams Parry (1884-1956), adwaenir fel rheol fel R. Williams Parry yn un o feirdd mwyaf nodedig Cymru yn yr ugeinfed ganrif.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ei fywyd
Ganed R. Williams Parry yn Nhalysarn, yn Nyffryn Nantlle. Roedd yn gefnder i T. H. Parry-Williams a Thomas Parry. Bu'n astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth am ddwy flynedd, ond gadawodd heb gael gradd ac aeth yn athro mewn ysgolion cynradd am gyfnod. Yn 1907 aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor i orffen ei astudiaethau a graddiodd yn 1908. Athro ydoedd o ran ei alwedigaeth, a bu'n dysgu ym Mrynrefail a Chaerdydd cyn dod yn aelod o staff Coleg Prifysgol Cymru, Bangor yn gyfrifol am ddosbarthiadau allanol.
[golygu] Ei waith
Daeth yn enwog fel bardd pan enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1910 am ei awdl Yr Haf, cerdd a barodd cryn gyffro ac a ddenodd lawer o efelychwyr. Cyhoeddodd ddau gasgliad o gerddi, Yr Haf a cherddi eraill (1924) a Cerddi'r Gaeaf (1952). Cyhoeddwyd casgliad o'i ryddiaith dan y teitl Rhyddiaith R. Williams Parry dan olygyddiaeth Bedwyr Lewis Jones yn 1974.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Llyfrau Williams Parry
- Yr Haf a cherddi eraill
- Y Gaeaf
[golygu] Astudiaethau
- Meic Stephens (gol) (1986) Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)