Jalal al-Din Muhammad Rumi
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd telynegol a chyfrinydd oedd Jalal al-Din Muhammad Rumi neu Jalaluddin Rumi (Perseg: مولانا جلال الدین محمد رومی , Twrceg: Mevlânâ Celâleddin Mehmed Rumi) ) (Rumi: Mohammed Ibn Mohammed, 1207 - 1273), a aned yn Balkh ym Mhersia Fawr (rhan o Affganistan heddiw). Cafodd y llysenw 'Rumi' ("Rhufeinig") am ei fod yn byw am y rhan fwyaf o'i oes mewn rhan o Asia Leiaf a oedd yn dal i fod dan reolaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd ar y pryd. Ei enw poblogaidd yn Nhwrci yw Mevlana.
Ymsefydlodd Rumi yn ninas Iconium (Konya heddiw) yn Twrci yn 1226 a sefydlu enwad newydd a adnabyddir heddiw fel y "Derfishiaid Chwyrlïol".
Fel llenor yn yr iaith Berseg cyfansoddai nifer o gerddi telynegol, cyfriniol eu naws, a geir yn y casgliad Divani Shamsi Tabriz. Mae'r rhan fwyaf ar ffurf ghazalau (math o ganeuon serch) i'w feistr cyfriniol Shamsi Tabriz ("Haul Tabriz"); telynegau am gariad wedi'i drawsnewid yn gariad dwyfol ydynt. Ysgrifennodd yn ogystal arwrgerdd ar ddysgeidiaeth y Swffiaid, Masnavi y ma' navi.
Mae ei goleg (medresa) a'i feddrod i'w gweld yn ninas Konya ac yn ganolfan pererindod hyd heddiw.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.