Jeff Young
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Jeff Young (16 Medi, 1942 - 3 Hydref, 2005), chwaraewr Rygbi'r undeb a enillodd 23 o gapiau dros Gymru fel bachwr rhwng 1968 a 1973.
Ganed Young ym Mlaengarw ac addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Garw a St Luke's College, Exeter. Chwaraeodd bum gwaith dros Ysgolion Uwchradd Cymru. Yn athro wrth ei alwedigaeth, chwaraeodd rygbi dros glybiau Blaengarw, Harrogate, Penybont-ar-Ogwr a Chymry Llundain. Chwaraeodd i'r tîm Dwyrain Cymru a gafodd gêm gyfartal gyda'r Crysau Duon yn 1967.
Chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd yn 1968, a daeth yn ddewis cyntaf fel bachwr i Gymru, gan chwarae mewn 22 o'r 26 gêm ryngwladol nesaf. Chwaraeodd yn y tîm a enillodd Y Gamp Lawn yn 1971 ac ymddangosodd am y tro olaf yng nghryd Cymru yn erbyn Ffrainc ym Mharis yn 1973. Wedi hynny enillodd Bobby Windsor y gystadleuaeth am safle'r bachwr. Dewiswyd Young i fynd ar daith i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig yn 1968 a chwaraeodd yn y gêm brawf gyntaf.
Yn 1971 rhoes y gorau i fod yn athro ac ymunodd a'r Llu Awyr. Yn 1991 daeth yn rheolwr technedol cyntaf Undeb Rygbi Cymru ac yn ddiweddarach bu'n Rheolwr Rygbi yn Harrogate. Derbyniodd yr OBE am ei wasanaeth i rygbi a'r Llu Awyr. Bu farw Jeff Young yn Harrogate yn Hydref 2005.
[golygu] Cysylltiadau allanol
http://www.wru.co.uk/2_5930.php/ Teyrnged i Jeff Young