Jose Luis Borges
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Jose Luis Borges (1899 - 14 Mehefin, 1986) yn llenor o Archentwr. Cafodd ei eni yn Buenos Aires, prifddinas Yr Ariannin. Mae'n adnabyddus yn rhyngwladol am ei storïau byrion yn bennaf, sydd wedi'u cyfieithu o'r Sbaeneg wreiddiol i nifer o ieithoedd. Roedd hefyd yn fardd o fri ac yn feirniad llenyddol craff. Nodweddir gwaith Borges gan ei soffistigeiddrwydd rwydd, ei eironi a'i synnwyr dirgelwch. Un o'i hoff ffurfiau oedd y stori dditectif a drawsffurfiwyd ganddo fo i gyrraedd lefelau newydd fel gwaith llenyddol. Mae ei gyfrolau yn cynnwys Ficciónes ("Chwedlau", 1944, 1946), El Aleph (1949) ac El Hacedor ("Teigrod Breuddwyd", 1960).
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.