Lewis Jones (Patagonia)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yr oedd Lewis Jones (30 Ionawr 1836 - 24 Tachwedd 1904) yn un o brif sylfaenwyr Y Wladfa ym Mhatagonia.
Ganed Lewis Jones yng Nghaernarfon a bu'n gweithio fel argraffydd yng Nghaergybi lle bu'n cyd-olygu'r Punch Cymraeg. Yn ddiweddarach symudodd i Lerpwl. Daeth yn un o brif arweinwyr y Mudiad Gwladfaol, ac yn 1862 aeth ef a'r Capten Love Jones-Parry i Batagonia i weld a oedd yr ardal yn addas ar gyfer sefydlwyr Cymreig. Dychwelodd gyda adroddiad ffarfriol dros ben - rhy ffafriol fel y gwelwyd yn nes ymlaen.
Aeth Lewis Jones ac Edwyn Cynrig Roberts i Batagonia i baratoi ar gyfer y sefydlwyr, ac yr oedd yno i'w croesawu pan laniodd y Mimosa. Bu cweryl pan gwynodd rhai o'r fintai nad oedd y wlad mor addas ag yr oedd Lewis Jones wedi ei adrodd, a symudodd yntau i Buenos Aires i weithio fel argraffydd am gyfnod. Pan oedd rhai o'r Cymry yn bwriadu gadael Patagonia yn 1867 dychwelodd i'w perswadio i aros. Dechreuodd wasg argraffu yn y Wladfa, a chyhoeddodd ddau bapur newydd yno, Ein Breiniad a'r Drafod. Bu yn rhaglaw dros lywodraeth Ariannin am gyfnod, ond bu hefyd yng ngharchar am amddiffyn hawliau'r Cymry.
Rhoddodd Lewis Jones ei enw i un o sefydliadau cyntaf y Cymry ym Mhatagonia, sef Trelew.
[golygu] Cyfeiriadau
Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)