Y Wladfa
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ardal yn nhalaith Chubut, Patagonia, yr Ariannin lle ymfudodd llawer o Gymry yn nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r Wladfa (neu Gwladfa Patagonia). Mae cymunedau Cymreig mewn gwledydd eraill hefyd, megis Pennsylvania ac ardaloedd eraill UDA neu Awstralia, ond mae'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn amlycaf yn y Wladfa. Heddiw, mae tua 150,000 o bobl yn byw yn yr ardal a thua 20,000 ohonynt yn ddisgynyddion i'r Cymry. Mae tua 5,000 ohonynt yn siarad Cymraeg a channoedd yn dysgu'r iaith.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Gwreiddiau'r Wladfa
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd pobl yn gadael Cymru am fod y wlad yn newid yn gyflym. O ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol codwyd trefi newydd, gweithiau dur a phyllau glo ac roedd llawer o Saeson yn dod i'r wlad. Ar wahân i broblemau tlodi roedd y Gymry yn chwilio am le i fyw eu bywyd eu hunain, gyda'u crefydd eu hunain, eu hiaith eu hunain, eu traddodiadau eu hynain ac, wrth gwrs, hawliau gwleidyddiol cyflawn.
Cafodd y mewnfudwyr gan milltir sgwâr o dir ym Mhatagonia ym 1862 ar ôl cytundeb gyda Dr Guillermo Rawson, Ysgrifennydd Cartref llywodraeth yr Ariannin o dan Arlywydd Bartolomé Mitre, er fod Cyngres yr Ariannin heb gadarnháu hynny. Sylfaenydd y Wladfa oedd y Parchedig Michael D. Jones, ond ni ddaeth yntau fyth i'r Wladfa. Pobl eraill sy'n enwog am eu hymdrech dros y Wladfa yw Barwn Love Jones-Parry o Fadryn, Lewis Jones, argraffydd o Lerpwl a'r Parchedig Abraham Matthews.
[golygu] Y Mimosa
Ym mis Mai 1865 gadawodd tua 160 o Gymry eu gwlad gan hwylio o Lerpwl i Borth Madryn, (heddiw: Puerto Madryn) ym Mhatagonia ar long y Mimosa. Cyrhaeddon nhw Borth Madryn ar 28 Gorffennaf ac roedd Lewis Jones ac Edwin Roberts yno yn barod i'w cyfarfod nhw. Y dref gyntaf a sefydlwyd oedd Rawson, a enwyd ar ôl yr Ysgrifennydd Cartref a roddodd y tir iddynt. Roedd nifer o enwau answyddogol ar y dref hefyd, megis "Caer Antur" a "Threrawson". Cafodd y mewnfudwyr amser caled iawn ar y dechrau am fod y tir a'r hinsawdd yn wahanol iawn i'r hyn oedd yng Nghymru a'r tir yn sych ac anodd i'w ffermio. Felly roedd diffyg bwyd arnynt yn ystod y cyfnod cyntaf, ond roedd pethau yn newid pan awgrymodd Rachel Jenkins gloddio ffosydd o gwmpas yr afon i gario dŵr i'r ffermdai. Ar ôl hynny, dechreuodd ffermio a chadw gwartheg fynd yn well. Cyrhaeddodd grwpiau eraill o Gymry yno rhwng 1874 a 1876.
[golygu] Blynyddoedd cynnar
Craidd y Wladfa yw Dyffryn Camwy, tua 60 km i'r de o Borth Madryn. Afon Camwy (Río Chubut) yw prif ffynhonnel dŵr yr ardal. Ystyr yr enw gwreiddiol Chupat yn iaith y Tehuelches brodorol yw 'Tryloyw'. Y prif drefi yw Rawson, prifddinas y dalaith ers 1884, Gaiman, y dref fwyaf Cymreig yn yr ardal, Dolavon a Threlew yn y dwyrain ac Esquel a Threvelin tua 500 milltir i'r gorllewin, yng Nghwm Hyfryd, wrth draed yr Andes.
Adeiladwyd rheillffordd o Ddyffryn Camwy i'r Bae Newydd (Golfo Nuevo yn Sbaeneg), ac felly roedd hi'n bosib danfon cynnyrch yr ardal i Buenos Aires. Estynnwyd y rheillffordd hyd at Gaiman ym 1909 ac wedi hynny hyd at Ddôl y Plu.
Pan gododd cynnen rhwng yr Ariannin a Chile oherwydd bod y ddwy wlad yn hawlio sofraniaeth dros yr ardal, gwahoddwyd y Deyrnas Gyfunol i gyflafareddu. Y gŵr a benodwyd i wneud y gwaith oedd Sir Thomas Holdich, a benderfynodd gynnal pleidlais i setlo'r mater 30 Ebrill, 1902. Er bod Chile yn cynnig dwywaith cymaint o dir iddynt, dewisodd mwyafrif llethol y Gwladfawyr aros o dan faner yr Ariannin, yn bennaf oherwydd nad oeddent am osod ffin rhyngddynt eu hunain a'u teuluoedd yn Nyffryn Camwy.
[golygu] Y Wladfa heddiw
Erbyn heddiw, mae diwylliant a thraddodiadau Cymru yn fyw yn yr ardal. Er enghraifft mae Eisteddfod yn cael ei chynnal ddwywaith y flwyddyn. Adeiladwyd yr ysgol gyntaf ac argraffwyd y papur newdd cyntaf gan Richard Berwyn ym 1868.
Er i'r mewnfudwyr fynd i'r Wladfa er mwyn cadw eu hiaith a'u traddodiadau, daeth Sbaeneg i fod yn iaith swyddogol ym 1880 a dros y blynyddoedd roedd nifer y bobl yn siarad Cymraeg yn lleihau. Ond mae cysylltiadau rhwng y Wladfa a Chymru yn cryfhau ers y 1960au. Dechreuodd y Swyddfa Gymreig ariannu cyrsiau Cymraeg ar gyfer pobl y Wladfa gan anfon athrawon atynt i gryfhau'r iaith. Mae'r rhaglen hon yn parhau hyd heddiw, o dan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.