Lucius Afranius
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Lucius Afranius (fl. 100 C.C.) yn ddramodydd Lladin, meistr pennaf Rhufain ar y dull comedi boblogaidd a elwir yn Fabula Togatus.
Mabwysiadodd waith Menander fel patrwm i'w waith ei hun. Yn ôl Cicero roedd yn ysgrifenydd ffraeth ac yn feistr ar yr iaith Ladin. Dim ond ambell ddryll o'r ddeugain drama a ysgrifenodd sydd ar gael heddiw, ond mae eu teitlau'n adnabyddus.
Roedd yn awdur toreithiog. Mae teitlau ei ddramâu a'r drylliau ohonynt yn awgrymu fod Afranius yn cymryd ei themâu o fywyd teuluol y cyfnod yn bennaf. Roedd ei waith yn boblogaidd ac roedd yn dal i gael ei berfformio yn ystod teyrnasiad Nero.