Mabinogi
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Casgliad o bedair chwedl yn seiliedig ar y traddodiad llafar Cymreig yw'r Mabinogi. Eu henw traddodiadol yw Pedair Cainc y Mabinogi (mae cainc yn golygu "cangen", sef "chwedl o fewn chwedl").
Oherwydd i'r Arglwyddes Charlotte Guest gamddeall y gair mabynogion (sy'n digwydd unwaith yn unig, mewn testun o chwedl Pwyll mewn dwy o'r llawysgrifau), fe ddefnyddir y gair Mabinogion ers iddi hi gyhoeddi ei chyfieithiad Saesneg o'r Pedair Cainc ac wyth chwedl arall i gyfeirio at y chwedlau mytholegol Cymreig yn eu crynswth. Mae rhai o'r chwedlau hynny'n chwedlau llafar sy'n cynnwys elfennau hanesyddol o'r Oesoedd Canol, ond ceir ynddynt hefyd elfennau cynharach o lawer sy'n deillio o fyd y Celtiaid.
Cedwir testunau pwysicaf y chwedlau mewn dwy lawysgrif ganoloesoel, sef Llyfr Gwyn Rhydderch a ysgrifenwyd rywbryd rhwng 1300 a 1325, a Llyfr Coch Hergest a ysgrifenwyd rywbryd rhwng 1375 a 1425.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y Pedair Cainc
- Pwyll Pendefig Dyfed
- Branwen ferch Llŷr
- Manawydan fab Llŷr
- Math fab Mathonwy
[golygu] Y Chwedlau Brodorol
Cyfieithodd a chyhoeddodd yr Aglwyddes Guest saith chwedl arall yn ei chasglaid. Mae pedair ohonynt yn chwedlau sy'n cynnwys deunydd o chwedloniaeth a thraddodiadau Cymreig, ac am y rheswm hynny yn cael eu galw Y Chwedlau Brodorol gan ysgolheigion. Eu teitlau yw:
- Breuddwyd Macsen Wledig
- Cyfranc Lludd a Llefelys
- Culhwch ac Olwen
- Breuddwyd Rhonabwy
Gan fod draddodiadau cynnar am y brenin Arthur i'w cael yn Culhwch ac Olwen a Breuddwyd Rhonabwy, mae'r storïau hyn o ddiddordeb arbennig i ysgolheigion Celtaidd. Mae Breuddwyd Macsen Wledig yn adrodd hanes yr Ymerawdwr Rhufeinig Magnus Maximus.
[golygu] Y Tair Rhamant
Mae'r tair stori a adnabyddir wrth yr enw Y Tair Rhamant yn chwedlau Arthuraidd sydd i'w cael yn rhannol yng ngwaith yr awdwr Ffrangeg Chrétien de Troyes yn ogystal. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Y Tair Rhamant yw:
- Iarlles y Fynnon (neu Owain)
- Peredur fab Efrawg
- Geraint ac Enid
[golygu] Hanes Taliesin
Yn ogystal â'r chwedlau hyn mae'r Arglwyddes Guest yn cynnwys wythfed chwedl sydd ddim yn y Llyfr Gwyn na'r Llyfr Coch (nid yw'n arfer ei chynnwys mewn argraffiadau diweddarach chwaith), sef
- Hanes Taliesin (neu Chwedl Taliesin neu Ystorya Taliesin)
[golygu] Ffilm
Gwnaed y ffilm cartŵn Y Mabinogi (90 munud; cyfarwyddwr: Derec Hayes) ym 2002.
[golygu] Gweler hefyd
- Pwyll, Branwen, Manawydan, Llŷr, Math fab Mathonwy, Mathonwy, Lludd, Llefelys, Culhwch, Olwen, Rhonabwy, Peredur, Geraint ab Erbin
- Pwyull Pendeuic Dyuet ar Wikisource
- Branwen uerch Lyr ar Wikisource