Macsen Wledig
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Macsen Wledig (Lladin: Magnus Maximus, tua 335 - 28 Gorffennaf, 388) yn rheoli'r Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol ar ôl cwymp yr Ymerodraeth ym 383 tan ei farwolaeth ym 388.
Celt-Iberiad (Celt o'r Sbaen Rufeinig) oedd Macsen Wledig. Cafodd ei orseddi yn Ymerawdwr gan ei fyddin tra roedd ef a hwy yn gwasanaethu ym Mhrydain. Gorchfygodd ei brif elyn Gratianus ger Paris ac ar ôl hynny fe'i lladdwyd ganddo mewn brwydr yn Lyons ar 25ain o Awst 383. Cododd Macsen Wledig brifddinas yn Augusta Treverorum (Almaeneg: Trier) ac roedd yn Gristion.
Yn ol y chwedl Gymreig ganoloesol Breuddwyd Macsen Wledig, priododd Macsen Elen, merch un o benaethiaid ardal Segontium, y gaer Rufeinig ger Caernarfon, ac mae peth tystiolaeth bod y stori yn wir. Yn ôl y traddodiad Cymreig, Macsen oedd yn gyfrifol am ymadawiad lluoedd Rhufain o Gymru 20 mlynedd cyn gweddill Prydain.
Cafodd Macsen Wledig ei ddal a'i ladd gan Theodosius I ger Trieste yn nhalaith Illyria ar 28 Gorffennaf 388.
Mae Dafydd Iwan wedi canu cân iddo fe, sef Yma o Hyd
[golygu] Llyfryddiaeth
- Gwynfor Evans, Macsen Wledig a Geni'r Genedl Gymreig (Abertawe, d.d.= 1983)