Mervyn Davies
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Thomas Mervyn Davies (ganed 1946 yn Abertawe) yn gyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 38 o gapiau dros Gymru fel wythwr.
Ymunodd Davies a Chymru Llundain yn 1968, ac yn ddiweddarach symudodd i Abertawe. Enillodd ei gap cyntaf i Gymru yn 1969 yn erbyn yr Alban ac aeth ymlaen i chwarae mewn 38 gêm yn olynol i Gymru a sgorio dau gais. Yn ystod y cyfnod yma enillodd Cymru'r Gamp Lawn ddwywaith a'r Goron Driphlyg deirgwaith.
Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig i Seland Newydd yn 1971 ac i Dde Affrica yn 1974, gan chwarae mewn wyth gêm brawf i gyd. Mewn cyfanswm o 46 gêm ryngwladol i Gymru a'r Llewod, dim ond naw gwaith y bu yn tîm a gollodd.
Diweddwyd ei yrfa gan waedlif tu mewn i'w graniwm, anafiad a ddioddefodd pan yn gapten Abertawe yn erbyn Pontypwl mewn gêm yn 1976.
Ystyrir Mervyn Davies fel yr wythwr gorau fu'n chwarae i Gymru erioed, ac un o chwaraewyr gorau Cymru yn unrhyw safle.