Moel Siabod
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Moel Siabod Moel Siabod |
|
---|---|
Llun | Moel Siabod o'r Crimpiau |
Uchder | 872m / 2,861 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Mae Moel Siabod yn fynydd yn Eryri, sy'n sefyll ar ei ben ei hun rhwng Betws-y-Coed, Capel Curig a Dolwyddelan. I'r de-orllewin mae copa is, Carnedd y Cribau. Dywedir fod modd gweld 13 o'r 14 copa dros 3,000 o droedfeddi yng Nghymru o gopa Moel Siabod heb droi pen. Mae Canolfan Fynydda Genedlaethol Plas-y-Brenin wrth droed Moel Siabod, gerllaw Llynnau Mymbyr.
Gellir dringo'r mynydd o bentref Capel Curig, gan ddechrau gerllaw Plas y Brenin, neu ychydig ymhellach ar hyd ffordd yr A5 gerllaw Pont Cyfyng a heibio Llyn-y-foel. Gellir hefyd ei ddringo o ochr Dolwyddelan.