Mont Blanc
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mont Blanc Alpau |
|
---|---|
Llun | Mont Blanc |
Uchder | 4,810m |
Gwlad | Ffrainc / Yr Eidal |
Mont Blanc (Ffrangeg am Mynydd Gwyn) yw'r mynydd uchaf yn yr Alpau a'r uchaf yng ngorllewin Ewrop. (Yr uchaf yn Ewrop yw Elbrus sy'n 5,642 m). Ei enw mewn Eidaleg yw Monte Bianco.
Saif Mont Blanc ar y ffin rhwng Ffrainc a'r Eidal, ac mae cryn dipyn o ddadlau wedi bod ynglyn a lleoliad y ffin ac ym mha wlad mae'r copa. Mae mapiau o Ffrainc yn tueddu i ddangos y copa yn Ffrainc, tra mae mapiau o'r Eidal yn dangos y ffin yn rhedeg dros y copa.
Mae union uchder y mynydd ym medru amrywio, oherwydd fod dyfnder o tua 10 - 15 medr o rew ac eira ar y copa. Mae mesuriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn amrywio rhwng 4,807 a 4,810 medr. Y ddwy dref bwysicaf wrth droed y mynydd yw Chamonix yn Ffrainc a Courmayeur yn yr Eidal. Mae twnel 11km dan y mynydd yn uno Ffrainc a'r Eidal.
Dechreuwyd yr ymdrechion i gyrraedd y copa gan Horace-Benedict de Sausure, a gynigiodd swm sylweddol o arian yn 1760 i unrhyw un a allai ddarganfod llwybr i'r copa. Yn 1786 dringwyd y mynydd am y tro cyntaf gan Jacques Balmat a Michel Paccard. Flwyddyn yn ddiweddarach gallodd de Sausure gyrraedd y copa ei hun.
Mae'r mynydd yn gyrchfan boblogaidd dros ben i dwristiaid, yn enwedig ar ochr Ffrainc. Daw llawer ohonynt i sgio ar lethrau'r mynydd, ond mae cryn nifer yn ei ddringo bob blwyddyn. Nid yw'n fynydd arbennig o anodd yn dechnegol, ond mae'r uchder a'r oerni yn creu problemau, a bob blwyddyn mae cannoedd o ddamweiniau difrifol ar Mont Blanc a'r mynyddoedd o'i gwmpas.