Murasaki Shikibu
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Murasaki yw llysenw (murasaki "blodeuyn eirin") llenores o Siapan a flodeuai ar ddechrau'r cyfnod Heian. Fe'i hadnabyddir hefyd fel Yr Arglwyddes Murasaki. Roedd hi'n gyfoeswr i'r llenores Sei Shōnagon, awdures Makura no Sōshi (Llyfr Erchwyn y Gwely).
Ei brif waith llenyddol yw'r nofel hir Genji no Monogatari (Hanes Genji), sy'n disgrifio hynt a helynt arglwydd ifanc yn y llys ymherodrol yn y brifddinas Heian Kyo a thu hwnt. Fe'i hystyrir yn un o gampweithiau llenyddiaeth Siapaneg. Mae Genji no Monogatari yn nofel estynedig hir iawn, gyda 54 pennawd sy'n rhedeg i o gwmpas 4,500 tudalen printiedig yn yr argraffiad safonol diweddar. Arddull realistig sydd i'r nofel.
Ysgrifennodd Murasaki ddyddiadur yn ogystal, Murasaki no Shikibu Nikki.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Annie S. Omori a Kochi Doi (cyf.), Diaries of Court Ladies of Old Japan (Tokyo, 1935).
- Ivan Morris, The World of the Shining Prince[:] Court Life in Ancient Japan (Llundain, 1964), tt. 262-98.
- Arthur Waley (cyf.), The Tale of Genji by Lady Murasaki (Llundain, 1925-34), mewn 6 cyfrol.