Myfanwy Talog
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Myfanwy Talog (31 Mawrth, 1945–11 Mawrth, 1995) (enw llawn: Myfanwy Talog Williams) yn actores o Gymraes a aned yng Nghaerwys, gogledd-ddwyrain Cymru.
Hyfforddodd fel athrawes yng Nghaerdydd cyn cychwyn ar ei gyrfa ym myd y cyfryngau. Ymddangosai ar y rhaglen Gymraeg i blant, Teliffant, yn ystod y 1970au, yn ogystal a chwarae rhan Phyllis Doris yn y gyfres gomedi boblogaidd Ryan and Ronnie ar y BBC. Yn y 1980au ymddangosai yn yr opera sebon Gymraeg, Dinas, ar S4C, ac mewn sawl cyfres gomedi Saesneg ar y BBC, gan gynnwys Bread a The Magnificent Evans. Yn ddiweddarach, roedd yn fwy cyfarwydd i'r genhedlaeth ifanc fel lleisydd y gyfres cartwn Wil Cwac Cwac.
Roedd yn bartner i Syr David Jason am dros 18 mlynedd tan ei marwolaeth o gancr y fron.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.