Nest ferch Cadell
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Am ferched eraill o'r enw Nest, gweler Nest.
Yr oedd Nest ferch Cadell (fl. dechrau'r 9fed ganrif) yn dywysoges o linach brenhinol Powys.
Gwnaeth Merfyn Frych, brenin teyrnas Gwynedd, gynghrair a theulu brenhinol Powys trwy briodi'r Dywysoges Nest. Roedd hi'n ferch i Gadell ap Brochwel a chwaer i Cyngen, brenin Powys. Roedd hi'n fam i'r brenin Rhodri Mawr.
Trwy ei phriodas i Ferfyn Frych unodd Nest llinach Gwynedd a llinach Powys, a chafodd hyn effaith bellgyrhaeddol ar wleidyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.