O Gors y Bryniau
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyfrol o storïau byrion gan y llenor Kate Roberts yw O Gors y Bryniau. Fe'i cyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, yn 1925. Hon oedd y gyfrol gyntaf i Kate Roberts gyhoeddi dan ei henw ei hun (cyhoeddasai ddrama dan y ffugenw 'Margaret Price' yn 1923).
Taflen Cynnwys |
[golygu] Cynnwys
Ceir naw stori fer yn y gyfrol: 'Y Man Geni', 'Prentisiad Huw', 'Hiraeth', 'Yr Athronydd', 'Newid Byd', 'Y Llythyr', 'Pryfocio', 'Y Wraig Weddw', a 'Henaint'. Merch ifanc 23 oed oedd Kate pan ysgrifennodd y storïau hyn ac mae ffresni a dychymyg ieuenctid yn perthyn iddyn nhw. Mae nhw'n agosach i'r traddodiad gwerinol lleol, i ryw raddau, na'i gwaith mwy caboledig diweddarach. Cyflwynodd yr awdures y gyfrol 'i goffadwriaeth Richard Hughes Williams' (Dic Tryfan), meistr arall ar y stori fer o'r un ardal.
[golygu] Beirniaid cyfoes
- Rhaid inni edrych ar y llyfr hwn fel carreg filltir bwysig yn ein twf llenyddol... mae 'O Gors y Bryniau' wedi bwrw holl storïau byrion Cymru hyd yn hyn i'r cysgod. (W. J. Gruffydd yn Y Llenor).
- Y mae llyfr fel hyn yn llawn o chwerthin a dagrau, a holl brofiadau bywyd o ran hynny... Dyma awdures sy feistes ar ei chrefft, wrth y safonau gorau. Fel y maent y gwêl hi bethau, ac ni thwyllir moni gan yr olwg ar y wyneb. (T. Gwynn Jones yn Y Darian.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Argraffiadau
- O Gors y Bryniau (Wrecsam, 1925; ail arg. 1926, 3ydd 1932)
[golygu] Astudiaethau
- Alun T. Lewis, "Crefft y Storïau Byrion" yn, Bobi Jones (gol.), Kate Roberts: Cyfrol Deyrnged (Dinbych, 1969)