Owen Morgan Edwards
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Arolygwr ysgolion, llenor a chyhoeddwr cylchgronnau i oedolion ac i blant oedd Owen Morgan Edwards (26 Rhagfyr 1858 - 15 Mai 1920).
Yn fachgen o Lanuwchllyn cafodd ei addysg yn y Bala, ac yna yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Oddi yno aeth i Glasgow am gyfnod ac yna i Goleg Balliol, Rhydychen lle 'roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes Modern.
Cafodd yrfa hir fel golygydd cylchgronau. Dechreuodd fel cyd-olygydd Cymru Fydd (1889-1891), cylchgrawn y mudiad gwleidyddol o'r un enw. Yn 1891 dechreuodd olygu a chyhoeddi y cylchgrawn Cymru (1891-1920) yn fisol, a adwaenir yn aml fel y Cymru Coch, oherwydd lliw y clawr. Yn yr un flwyddyn dechreuodd gyhoeddi y cylchgrawn misol i blant Cymru'r Plant; ar ei anterth yn 1900 roedd hwn yn gwerthu tua 40,000 o gopïau y mis, sy'n ei wneud y cyhoeddiad mwyaf poblogaidd erioed yn hanes Cymru.
Yn 1907 dewiswyd ef yn brif arolygydd ysgolion Cymru. Ynghyd a'r gwaith hwnnw roedd yn ymroddedig i greu yn ei gyd-Gymry falchter yn eu hanes, ei hiaith a'u diwylliant, ac i'r perwyl hyn fe ysgrifennodd nifer o lyfrau Cymraeg wedi eu hysgrifennu mewn arddull a oedd yn apelio at y darllenydd cyffredin.
Golygodd a chyhoeddodd ddwy gyfres bwysig o glasuron rhyddiaith a barddoniaeth Cymraeg, sef Cyfres y Fil (37 cyfrol) a Llyfrau ab Owen. Cyhoeddodd yn ogystal Cyfres Clasuron Cymru. Cafodd y llyfrau bach deniadol, rhad a safonol hyn ddylanwad mawr ar feddylfryd y Cymry.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Llyfrau O.M. Edwards
- Trem ar Hanes Cymru (1893)
- Celtic Britain (1893)
- Clych Adgof (1906)
- O'r Bala i Geneva (1889)
- Ystraeon o Hanes Cymru (1894)
- Hanes Cymru (1895, 1899)
- Cartrefi Cymru (1896)
- Tro yn Llydaw (d.d. tua 1900)
- Wales (1901, yn y gfyres Stories of the Nations)
- A Short History of Wales (1906)
- Llyfr Del (1906). I blant.
- Tro trwy'r Gogledd (1907)
- Tro i'r De (1907)
- Hwiangerddi (1911). I blant.
- Llyfr Nest (1913). I blant.
[golygu] Astudiaethau
- W.J. Gruffydd, Owen Morgan Edwards, Cyfrol 1, 1858-1883 (Aberystwyth, 1937). Yr unig gyfrol a gyhoeddwyd.
- Gwilym Arthur Jones, Bywyd a Gwaith Owen Morgan Edwards (1958)
- R.M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936 (1987). Pennod 7 ac 8 ar lyfrau O.M. Edwards a'u dylanwad.