Pont Grog Conwy
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Pont Grog Conwy oedd y bont gyntaf i groesi Afon Conwy wrth ymyl tref Conwy, ac un o'r pontydd crog cyntaf yn y byd.
Dyluniwyd y bont gan Thomas Telford, peiriannydd Pont Y Borth gyda chynllun tebyg iawn i'r bont honnno. Cychwynwyd ar y gwaith ar 3 Ebrill, 1822, ac agorwyd y bont ar 1 Gorffennaf, 1826. Er bod rhaid cloddio dan y castell i osod y cadwyni, 'roedd cynllun Telford yn sensitif i'r nodweddion hanesyddol, gan osod tyrrau debyg i tyrrau'r castell arni.
Ym 1848, cwblhawyd y bont rheilffordd, sy'n rhedeg wrth ymyl y Bont Grog, gan Robert Stephenson.
Caewyd y Bont Grog i draffig modur ym 1958, pan agorwyd y bont newydd cyfagos. Ers 1965, bu ym meddiant Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd yn agor y bont i gerddwyr am ffi bychan. Yn y 1990au, gwnaed gwaith atgyweirio a chadwraeth sylweddol arni. O gymharu â Phont Y Borth, mae'n debyg bod y bont presennol yng Nghonwy o ran ei golwg yn nes at gynllun gwreiddiol Telford.
[golygu] Cyfeiriadau
- Quartermaine et al (2003) Thomas Telford's Holyhead Road: The A5 in North Wales, Council for British Archaeology ISBN 1 902771 34 6