Thomas Telford
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Peirianydd o Albanwr oedd Thomas Telford (9 Awst, 1757 - 2 Medi, 1834), a anwyd yn Eskdale.
Yn ddyn ifanc gweithiodd fel saer maen. Yn 1783 symudodd i Lundain. Yn 1787 llwyddodd i gael swydd yn arolygydd y ffyrdd yn Sir Amwythig. Mewn canlyniad fe'i penodwyd yn beirianydd ar gyfer Camlas Ellesemere.
Aeth i'r Alban ar ran y llywodraeth i baratoi adroddiad ar gyflwr ffyrdd yr Alban a gweithiodd wedyn ar Camlas Caledonia.
Yng Nghymru bu'n beirianydd ar waith yr A5 rhwng y gororau a Chaergybi, gan gynnwys adran Nant Ffrancon, ac ar rannau o ffordd yr arfordir (yr A55 heddiw), er enghraifft ym Mhenmaenmawr (Penmaen-mawr a Phenmaen-bach) ac yn cynnwys Pont Grog Conwy. Ei waith mwyaf enwog yw'r bont grog a gododd dros Afon Menai yn 1826, sef Pont y Borth.
Bu farw Telford yn 1834 a chafodd ei gladdu yn Abaty Westminster.