Pont Waterloo
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Mae'r erthygl hon am Bont Waterloo yng Nghymru. Mae Pont Waterloo yn Llundain hefyd, ger yr orsaf o'r un enw.
Pont haearn hynafol ar Afon Conwy ger Betws-y-Coed, gogledd Cymru, yw Pont Waterloo.
Lleolir y bont rhyw hanner milltir i'r de-ddwyrain o'r pentref. Fe'i codwyd gan y peiriannydd sifil enwog Thomas Telford. Mae arysgrifen ar fwa'r bont yn cofnodi iddi gael eu hadeiladu yn yr un flwyddyn â Brwydr Waterloo: ond tra bod y bont wedi ei chynllunio a'r rhannau haearn wedi eu hadeiladu yn 1815, ni chwblhawyd codi'r bont yn y flwyddyn honno. Cafodd ei godi i gludo'r hen Lôn Caergybi (yr A5 bellach). Mae Pont Waterloo wedi ei gwneud yn gyfangwbl o haearn (ac eithrio'r ddau fastion carreg sy'n ei chynnal ar y ddwy lan), y seithfed bont yn y byd i gael ei chreu felly.
[golygu] Cyfeiriadau
- Quartermaine et al (2003) Thomas Telford's Holyhead Road: The A5 in North Wales, Council for British Archaeology ISBN 1 902771 34 6