Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yn Aberystwyth, yn 1872, yr agorwyd sefydliad prifysgol gyntaf Cymru - 'y coleg ger y lli'. Y prifathro cyntaf oedd Thomas Charles Edwards, ac ar y cychwyn roedd 26 o fyfyrwyr. Bellach, mae yno dros 7,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys bron 2,000 o Gymru, a thros 1,100 o uwchraddedigion. Mae yno ddeunaw adran academaidd, sy'n dysgu ystod eang o bynciau.
Un o adrannau enwocaf y brifysgol yw Adran y Gymraeg. Yn Asesiad Ymchwil 2001 llwyddodd yr Adran i wella ar ei chanlyniad yn 1996 (pan ddyfarnwyd gradd 5A iddi). Y tro hwn dyfarnwyd gradd 5*A iddi, y radd uchaf un. Golyga hyn fod y Panel Asesu o'r farn fod dros hanner y gweithiau a gyflwynwyd gan yr Adran o safon rhagoriaeth ryngwladol, a'r cyfan o'r gweddill o safon rhagoriaeth genedlaethol. Mae'r staff yn ysgolheigion o fri - pob un ohonynt yn frwdfrydig dros eu pwnc ac yn arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd.
Gellir astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ar gyfer nifer o fodiwlau yn yr Adran Hanes, ynghyd ag ychydig o bynciau eraill.
[golygu] Dolen Allanol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.