Ragnell
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd y dywysoges Lychlynaidd Ragnell (neu Ragnallt neu Ragnailt) yn ferch i Olaf Arnaid (m. 1012), un o feibion Dubhgall, brenin Dulyn, yn wraig i Gynan ap Iago o Wynedd ac yn fam i Ruffudd ap Cynan, brenin teyrnas Gwynedd, yn ôl traddodiad.
[golygu] Tystiolaeth Hanes Gruffudd ap Cynan
Ychydig sy'n hysbys amdani. Cyfeirir ati yn Hanes Gruffudd ap Cynan yn achau'r tywysog:
- Ei dad oedd Cynan, frenin Gwynedd, a'i fam oedd Ragnell ferch Afloedd (Olaf Arnaid), frenin dinas Dulyn a phymet ran Iwerddon (orgraff ddiweddar).
Nid oes cadarnhad o hyn mewn unrhyw ffynhonnell arall ac mae rhai haneswyr yn amheus iawn o'r gosodiad.
[golygu] Tystiolaeth Wyddelig
Cyfeirir at ferch o'r enw Ragnell yn y llawysgrif Wyddeleg Bansenchas (neu Ban-shenchus), sy'n rhestru gwragedd nodedig y byd. Mewn fersiwn mydryddol diweddarach dywedir bod Ragnailt imgen Amlaib arnaid yn fam i Murchertach.