Dulyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Prifddinas Iwerddon a'i dinas fwyaf yw Dulyn (Gwyddeleg: Baile Átha Cliath). Mae wedi'i lleoli ar arfordir dwyreiniol Iwerddon, ar aber Afon Life. Fe'i sefydlwyd gan y Llychlynwyr yn 988 ac mae'n brifddinas Iwerddon ers yr Oesoedd Canol.
Mae'r enw yn gyfieithiad o'r Wyddeleg 'dubh linn' ('pwll du').
'Roedd poblogaeth y ddinas weinyddol yn 505,739 yn ôl cyfrifiad 2006, ond 'roedd poblogaeth yr ardal drefol gyfan, yn cynnwys y maestrefi gerllaw, yn 1,186,159.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.