Rhyfel y Malvinas
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ymladdwyd Rhyfel y Malvinas neu Rhyfel y Falklands yn 1982 rhwng y Deyrnas Unedig a'r Ariannin. Mae'n cael ei ystyried fel rhyfel imperialaidd olaf yr Ymerodraeth Brydeinig.
Ers blynyddoedd lawer hawliai'r Ariannin yn sofraniaeth ar Ynysoedd y Malvinas (Ynysoedd y Falklands) yn ne'r Cefnfor Iwerydd. Cafodd yr ynysoedd eu hawlio gan Goron Prydain yn gynnar yn y 19eg ganrif a'u troi'n drefedigaeth Brydeinig. Ar 2 Ebrill, 1982, goresgynwyd yr ynysoedd gan lywodraeth asgell dde'r Ariannin. Methiant fu'r ymdrechion gan y Cenhedloedd Unedig a'r Unol Daleithiau i ddatrys y sefyllfa'n heddychlon ac anfonwyd llynges gyda milwyr ac awyrennau gan lywodraeth Margaret Thatcher i ailgipio'r ynysoedd; "Tasglu'r Ffalclands" fel y'i gelwid. Ar 25 Ebrill cipiwyd ynysoedd De Georgia yn ôl ac erbyn 14 Mehefin roedd y Malvinas eu hunain yn ôl ym meddiant Prydain. Collwyd nifer o fywydau ar y ddwy ochr, gan gynnwys suddo'r llong Sir Galahad gan awyrennau Archentinaidd a lladd nifer o Giardau Cymreig, a suddo'r llong ryfel y General Belgrano gan longau tanfor Prydeinig gyda cholledion mawr o gonscriptiaid ifainc.
[golygu] Colledion
- Prydain: 258 wedi'u lladd, 777 wedi'u hanafu
- Yr Ariannin: 649 wedi'u lladd (yn bennaf ar y Belgrano), 1,068 wedi'u hanafu
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.