Robert Clive
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Milwr a gweinyddwr enwog o Sais oedd Robert Clive neu'r Barwn Clive o Plassey (29 Medi, 1725 - 22 Tachwedd, 1774), a aned ger Market Drayton yn Sir Amwythig. Ei enw poblogaidd o "Clive o India".
Chwareai ran bwysig yn hanes cynnar Cwmni Dwyrain India. Treuliodd dri chyfnod yn India. Yn ei ail dymor yn y wlad (1753 - 1760) daeth yn enwog am ei ran yn ail-gipio dinas Calcutta o ddwylo'r gwrthryfelwyr ac yn ddiweddarach am ei fuddugoliaeth enwog yn erbyn Surajah Dowlah, Nawab Bengal, ym Mrwydr Plassey (1757). Am gyfnod roedd yn rheolwr de facto ar Fengal i gyd. Ar ôl dychwelyd i Loegr yn 1760 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Amwythig yn 1761 a'i urddo'n farwn gan William Pitt "yr Iau". Yn ei drydydd dymor yn India gosododd sylfeini rheolaeth Prydain ar y wlad i gyd. Cyflawnodd hunanladdiad yn 1774 yn sgîl ffrae hir-dymor am ei weinyddiaeth ar y Cwmni.
[golygu] Darllen pellach
- Burhan Ibn Hasan, Tuzak-I-Walajahi (Prifysgol Madras, 1934)
- H.E.Busteed, Echoes from Old Calcutta (Calcutta, 1908)
- A. Mervyn Davies, Clive of Plassey (Llundain, 1939)
- Michael Edwardes, The Battle of Plassey and the Conquest of Bengal (Llundain, 1963)
- Mark Bence-Jones, Clive of India (Llundain, 1974)
- Thomas Babington Macaulay, "Lord Clive" yn Essays (Llundain: Longman's, Green & Co, 1891), tt. 502-547.
- P.J. Marshall, Bengal, The British Bridgehead: Eastern India 1740-1828 (Caergrawnt, 1988)