Sbeis
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Darnau o blanhigion sydd ddim yn sawr-lysieuyn a ddefnyddir i roi blas i fwyd yw sbeisiau (ar ôl y diffiniad hwn nid yw halen yn sbeis, ond mae rhai bobl yn meddwl fod sbeisiau yn cynnwys mwynau a phopeth arall sydd yn rhoi blas i fwyd).
Yn ystod y Canol Oesoedd a'r Cyfnod Modern Cynnar roedd sbeisiau yn nwyddau mor bwysig ag yw olew heddiw. Ar wahân i roi blas i fwyd roedden nhw'n cael eu defnyddio i gyffeithio bwyd ac i gynhyrchu moddion. O ganlyniad roedd masnach sbeisiau -- yn bennaf ar gyfer y rhai oedd yn dod o Asia -- yn bwysig iawn, i'r gwledydd Arabaidd yn y dechrau, wedyn i ddinas-wladwriaethau yr Eidal (e.e. Fenis) ac i'r Ymerodraethau Ewropeaidd. Dechreuodd Oes y Darganfyddiadau yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gan chwilio am ffordd ar hyd y môr i'r ynysoedd o ble roedd y sbeisiau yn ddod.
Heddiw, y sbeisiau mwyaf ddrud yw saffrwm, fanila a chardamom.